Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee
CELG(4)-01-15 Papur 1 / Paper 1

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol–

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru

 

 

Cyflwyniad

 

1.      Diben y papur hwn yw darparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Llinyn 1 - Tlodi ac Anghydraddoldeb.

 

Effeithiau Tlodi ar Grwpiau Gwahanol o Bobl

 

2.      Mae cysylltiadau annatod rhwng tlodi a’r rhai sydd â nodweddion    gwarchodedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r carn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a threchu tlodi. 

 

3.     Deellir bod tlodi parhaus neu eithafol yn fwy tebygol o effeithio ar bobl anabl, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, rhieni sengl (sy'n fenywod yn bennaf), grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl hŷn.

 

4.    Yn ôl ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree, mae pobl anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi na phobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn wedi'i waethygu gan raglen Diwygio Lles Llywodraeth y DU. Canfu rhaglen ymchwil Llywodraeth Cymru i effaith Diwygio Lles y bydd pobl anabl yng Nghymru yn cael eu heffeithio’n anghymesur. Maent hefyd yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan doriadau i wasanaethau lleol o ganlyniad i doriadau i gyllidebau Awdurdodau Lleol.

 

5.     Law yn llaw â'r tebygolrwydd uwch o fyw mewn tlodi, gwyddom fod gan grwpiau penodol â nodweddion gwarchodedig gyrhaeddiad addysgol sy’n anghymesur is. Mae'r rhain yn cynnwys rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig, ee disgyblion Du ac Affricanaidd Caribïaidd a rhai sydd o dras Bangladeshaidd a Phacistanaidd, yn ogystal â'r rhai sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig a bechgyn gwyn o grwpiau economaidd-gymdeithasol is. Mae disgyblion o leiafrifoedd ethnig a bechgyn dosbarth gweithiol gwyn hefyd yn cael eu cynrychioli’n anghymesur yn y rhai sy’n cael eu gwahardd yn barhaol. Mae hyn yn fwy amlwg byth ymhlith disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), gyda thua hanner y rhai sy’n cael eu gwahardd ag AAA. 

 

6.     Mae menywod yn dweud bod eu cyfrifoldebau gofalu am eu plant neu rieni yn effeithio ar eu cyfleoedd i weithio neu symud ymlaen yn y gweithle. Mae adroddiadau diweddar yn dod i’r casgliad bod cyfrifoldebau gofalu yn parhau i atal menywod rhag cyrraedd eu llawn botensial ac yn cyfyngu ar eu rôl bosibl yn economi Cymru drwy eu dal ym magl swyddi rhan-amser ar gyflog is. Nododd adroddiad gan grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2013 mai menywod, yn hytrach na dynion, fyddai’n cael eu taro galetaf. Ym mis Tachwedd 2014, amlinellodd adroddiad Chwarae Teg 'Menywod a Diwygio Lles' sut y mae Diwygio Lles hyd yma wedi cael effaith anghymesur ar fenywod a sut y bydd yn parhau i wneud hynny.

 

Cydgysylltu effeithiol rhwng y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Strategaethau eraill y Llywodraeth

Cydgysylltu Effeithiol

 

7.     Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith cydraddoldeb a thlodi ym mhob maes polisi, ac mae hyrwyddo cydraddoldeb a threchu tlodi wrth wraidd ein Rhaglen Lywodraethu.

 

8.     Mae dogfennau polisi a strategaeth Llywodraeth Cymru yn llunio ymagwedd gydlynol a chyson tuag at drechu tlodi. Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (CGTT) yn gosod yr ymagwedd lefel uchel tuag at drechu tlodi yng Nghymru, gyda thargedau penodol a mesuradwy. Mae'r themâu a nodir ganddo fel blaenoriaethau yn cael eu hadlewyrchu a’u datblygu mewn dogfennau mwy penodol a manwl.

 

9.     Er enghraifft, mae targedau ar gyfer torri'r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol a thlodi yn cael eu cynnwys yn y CGTT. Mae'r ddogfen Ailysgrifennu’r Dyfodol, a gynhyrchwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn cyfeirio at y targedau hyn ac yn adeiladu arnynt. Mae'n darparu dadansoddiad mwy trylwyr o'r ymagwedd a'r camau gweithredu sydd eu hangen i effeithio ar gyrhaeddiad addysgol y rhai sy'n byw mewn tlodi.

 

10.  Yn yr un modd, mae'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn cysylltu’n uniongyrchol â'r targedau yn y CGTT, mewn perthynas â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae'n nodi'r camau sydd angen eu cymryd i leihau nifer y bobl ifanc NEET a'r broses benodol y dylid ei mabwysiadu. Mae eisoes yn gwneud cynnydd gwirioneddol ac wedi cael croeso cynnes gan Awdurdodau Lleol.

 

11.  Mae dogfennau eraill, gan gynnwys Cynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol ag amcanion y Cynllun Gweithredu.

 

12.  Mae'n amlwg nad yw un ateb yn addas i bawb wrth geisio trechu tlodi. Gwyddom fod gwahanol grwpiau yn cael eu heffeithio'n wahanol gan dlodi, yn enwedig y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Byddai'n amhriodol grwpio pobl gyda’i gilydd a chymryd yn ganiataol y bydd yr un ymyriadau yn cael yr un effaith ar bawb. Golyga hyn fod angen gwahanol ymatebion a strategaethau polisi i dargedu gwahanol grwpiau ac agweddau ar fyw mewn tlodi.

 

Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol

 

13.  Mae nifer o amcanion cymaradwy yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) a'r CGTT. Mae'r rhain yn cynnwys amcanion sy’n canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n NEET.

 

14.  O fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, mae ein hamcanion ar y bwlch cyflog o safbwynt rhywedd, ethnigrwydd ac anabledd, gwasanaethau cynghori, gofal plant fforddiadwy a helpu pobl anabl i fyw'n annibynnol hefyd yn cyd-atgyfnerthu'r camau gweithredu o fewn y CGTT.

Strategaeth Tlodi Plant

15. Mae’r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig yn tynnu sylw at y cysylltiadau gyda'r CGTT ac yn eu hatgyfnerthu, a dyma’r mecanwaith allweddol ar gyfer cyflawni’r amcanion rydym wedi'u gosod i drechu tlodi plant.  Mae'n cynnwys ffocws o'r newydd ar sicrhau bod ein strategaethau, polisïau, cynlluniau a rhaglenni i gyd yn cysylltu â’i gilydd, gan gynnwys gyda'r Strategaeth Cydraddoldeb Strategol, er mwyn sicrhau ffocws cyson a pharhaus ar blant a phobl ifanc.

 

16.  Mae'r Strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o asesu effaith, gan ystyried tlodi a chydraddoldeb gyda’i gilydd. Bydd hyn yn galluogi Adrannau i ystyried yr effeithiau ar y rhai sydd yn y perygl mwyaf o fyw mewn tlodi.

 

Cydgysylltu a blaenoriaethu deddfwriaeth, polisi a chyllidebau sydd wedi’u targedu at drechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb ar draws Llywodraeth Cymru

Bwrdd Gweithredu ar Drechu Tlodi

17. Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi sy’n cadeirio'r Bwrdd Gweithredu ar Drechu Tlodi. Mae'r Bwrdd yn cynnwys uwch swyddogion o bob rhan o Lywodraeth Cymru sy’n atebol am y targedau a'r cerrig milltir yn y CGTT. Dyma gyfle’r Gweinidog i sicrhau bod polisïau, rhaglenni, dogfennau strategaeth ac adrannau yn cydweithio i leihau tlodi yng Nghymru mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol.

 

Deddfwriaeth

 

18. Mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r agenda hon. Y tu hwnt i ddeddfwriaeth pwnc-benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi ategu ei gweithgareddau gyda ffocws ar drechu tlodi ac anghydraddoldeb. Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y ddeddfwriaeth sylfaenol ac yn cael eu hadlewyrchu yn egwyddorion arweiniol Llywodraeth Cymru. Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru (a chyrff allweddol eraill yn y sector cyhoeddus) i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant Cymru ac i osod amcanion ar gyfer trechu tlodi plant a gwella canlyniadau teuluoedd ar incwm isel.

 

19.  Wrth symud ymlaen, bydd Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn creu fframwaith cryfach ar gyfer pob deddfwriaeth ddilynol, yn cryfhau llywodraethu ac yn sicrhau ymagwedd gydlynol at bob gweithgaredd. Mae'r nodau yn cynnwys "Cymru fwy cyfartal" a "Cymru o gymunedau cydlynol". Mae'r nodau hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Byddant yn rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd pob gweithgaredd ac yn sicrhau bod materion cymdeithasol, yr economi a'r amgylchedd yn cael eu hystyried gyda'i gilydd.

 

Polisi

 

20.  Ar draws Llywodraeth Cymru, nod polisïau a rhaglenni yw cefnogi cymunedau tlotaf Cymru, yn ogystal â thargedu grwpiau â nodweddion gwarchodedig mewn llawer achos. Mae yna ffocws ar wella bywydau pobl sy'n byw ar incwm isel drwy raglenni pwrpasol ac, yn bwysig, trwy bolisïau ‘prif ffrwd’.

 

21.  Er enghraifft, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi gwneud mynd i'r afael â'r cysylltiadau rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel yn brif flaenoriaeth, ac mae wedi dyrannu adnoddau sylweddol i helpu i gyflawni hyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion, Her Ysgolion Cymru ac ymgyrch i dynnu sylw at rôl y teulu.

 

22.  Mae’r Gweinidog Iechyd wedi gwneud ei ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn glir ac wedi ymrwymo i adolygu'r fformiwla a ddefnyddir i ddosbarthu adnoddau i Fyrddau Iechyd er mwyn sicrhau dyraniad sy’n adlewyrchu angen.   

 

23. O fewn y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi, rydym wedi gwneud ymrwymiad cryf i gryfhau ac adeiladu ar y cysylltiadau (sydd eisoes yn gryf) rhwng y sector Tai ac ymdrechion i leihau tlodi. Mae hyn yn cynnwys trwy adfywio cymunedau, gwneud y gorau o adnoddau trwy ymgorffori budd cymunedol ym maes caffael a chryfhau cysylltiadau rhwng landlordiaid cymdeithasol a phartneriaid eraill.

 

24. Y tu hwnt i hyn, mae'r Is-adran Trechu Tlodi yn gweithio gyda phartneriaid allanol a chydweithwyr ledled Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trechu tlodi yn flaenoriaeth i bawb, bod ymdrechion yn cael eu cydgysylltu a bod dull cyffredin o fynd i’r afael â blaenoriaethau a rennir.

 

Integreiddio Rhaglenni Trechu Tlodi

 

25. Ceir y prif raglenni sy’n ceisio lleihau tlodi yn benodol yn y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi: Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Cefnogi Pobl. Mae pob un yn chwarae rhan hanfodol gan helpu pobl ar incwm isel sydd yn y perygl mwyaf o ganlyniadau gwael, a'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydym hefyd wedi cydnabod bod cyfleoedd i wella sut y cyd-gysylltir y rhaglenni hyn, bod modd i ni wella sut rydym yn cydlynu ein ffordd o fynd ati ar lawr gwlad a gwneud y gorau o’n hadnoddau.

 

26.  Yn 2013, gwnaeth y prosiect Cefnogi Cymunedau Cryf argymhellion i alinio fframweithiau canlyniadau prosiectau Cymunedau yn Gyntaf a Teuluoedd yn Gyntaf a’u rhoi ar lwyfan cyffredin. Mae hyn yn cynnwys datblygu patrymau gwaith a llwybrau cyfathrebu ar y cyd lled-ffurfiol mewn ardaloedd lleol a mwy o ffocws ar themâu, cydweithio a rhannu arfer gorau ar themâu cyffredin fel “rhianta”.

 

27.  Mae'r argymhellion hyn yn cael eu datblygu gan y Prosiect Integreiddio. Mae pedwar Swyddog Integreiddio Rhanbarthol yn cefnogi ‘Integreiddio Rhaglenni’ drwy hwyluso dulliau o gydweithredu rhwng y rhaglenni Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg

 

28.  Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cael ei sefydlu i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cyfunol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg. Rhagwelir y bydd y defnydd o'r Fframwaith hwn yn cael ei brofi gan nifer o ardaloedd “mabwysiadu cynnar” yn y flwyddyn newydd, cyn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Ers cynnwys Tai yn y Portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi, mae ystyriaeth bellach yn cael ei rhoi i a oes angen i'r Fframwaith gael ei ehangu neu ei ailystyried i gynnwys Canlyniadau Cefnogi Pobl.

 

Cysylltiadau rhwng Rhaglenni Trechu Tlodi a Chydraddoldeb

Teuluoedd yn Gyntaf:

29.  Mae'r rhaglen yn cyfrannu’n allweddol at amcanion Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu'n sylweddol at ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi cyffredinol.

 

30.  Un o elfennau allweddol y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yw swm sydd wedi'i neilltuo i'w wario ar ffyrdd arloesol o wella gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl a gofalwyr ifanc. Mae disgwyl i Awdurdodau Lleol ddarparu ar gyfer y teuluoedd hyn yn eu holl wasanaethau, fodd bynnag, mae'r cyllid sydd wedi'i neilltuo yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod eu hanghenion penodol yn cael eu diwallu. Mae'r elfen hon o'r rhaglen wedi ariannu gwasanaethau newydd ac wedi arwain at well integreiddio a chydgysylltu gwasanaethau sydd eisoes ar waith. Mae ymarferwyr bellach yn fwy ymwybodol o'r amrywiaeth o ddarpariaeth sydd ar gael i bobl anabl a gwerth integreiddio gwasanaethau anabledd gyda ​​darpariaeth prif ffrwd a darpariaeth arall.

 

31.  Mae Adroddiad Gwerthuso Blwyddyn 2 Teuluoedd yn Gyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014, yn awgrymu bod Teuluoedd yn Gyntaf wedi gwella gallu gwasanaethau lleol a staff i ddarparu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd a effeithir gan anabledd, yn enwedig mewn meysydd lle mae gwasanaethau presennol yn cael eu haddasu. Yn ogystal, cafodd 71% o gynlluniau gweithredu’r Tîm o Amgylch y Teulu a oedd yn benodol ar gyfer teuluoedd a effeithir gan anabledd, eu cau rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2013, gyda chanlyniadau cadarnhaol.

 

32.  Mae Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn cefnogi ymyriadau sy’n seiliedig ar unigolion ac ar boblogaeth. Mae Awdurdodau Lleol yn cael cryn dipyn o hyblygrwydd i gomisiynu prosiectau ar raddfa fawr. Mae llawer o'r prosiectau hyn yn gallu diwallu anghenion y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, a cheir enghreifftiau yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.

 

Dechrau’n Deg:

33.  Dechrau'n Deg yw rhaglen ymyriadau flaenllaw Llywodraeth Cymru yn y blynyddoedd cynnar. Erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, bydd cyrhaeddiad Dechrau'n Deg wedi dyblu i 36,000 o blant a'u teuluoedd, yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.

 

34.  Mae data gwerthuso ar gyfer y rhaglen yn dangos tystiolaeth o ganlyniadau uniongyrchol a ragwelir ar gyfer y rhaglen. Mae’n cynnwys datblygiad iaith, datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a datblygiad gwybyddol plant yn y rhaglen. Mae ymchwil ansoddol hefyd yn dangos yr effaith ar rieni o ran eu hymddygiad fel rhieni, iechyd a lles a’u canfyddiadau o'r cymunedau lleol lle rydym yn cynnig gwasanaethau Dechrau'n Deg.

 

35.  Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd fod rhieni plant sy’n rhan o’r rhaglen yn elwa ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu sgiliau newydd ac felly’n gwella eu rhagolygon cyflogaeth. Yn benodol, mae’r gallu i gael gafael ar ofal plant rhad ac am ddim wedi galluogi rhieni i gyrchu hyfforddiant a chyflogaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig i unig rieni.

 

36.  Mae ystod o ddata wedi’i gasglu mewn perthynas â phlant sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae data wedi ei ddadgyfuno a gasglwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14, ar gyfer y plant sy’n rhan o lwyth achosion Ymwelwyr Iechyd, ar gael.

 

Cymunedau yn Gyntaf:

37.  Mae'n ofynnol i Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf amlinellu yn eu Cynlluniau Cyflawni y gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal i sicrhau bod darpariaeth yn ymateb i anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig. Mae'n rhaid i glystyrau fynd ati’n ddyfal i hyrwyddo egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau dynol. Dylai grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau a rheoli gwaith y Clystyrau, yn ogystal ag elwa ar y rhaglen. Dylai clystyrau hefyd ddangos yn eu Cynlluniau Cynnwys Cymunedau sut mae pobl leol, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, yn cael eu cynrychioli a'u cynnwys ar bob lefel yn y rhaglen.  

 

38. Mae yna hefyd amrywiaeth o Brosiectau Canlyniadau a Rennir sy'n ceisio mynd i'r afael â materion sy’n rhan o dlodi, annhegwch ac anghydraddoldeb. Mae prosiectau fel StreetGames, a ariennir drwy Cymunedau yn Gyntaf, yn cefnogi menywod ifanc a merched, yn enwedig o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Mae'r prosiect hwn yn gwella iechyd menywod ifanc ac yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, yn rhoi hwb i’w lefelau hyder ac yn dysgu sgiliau newydd iddynt.

 

39.   Mae “Modd i Fyw”, sef Archwiliadau Iechyd a Lles ar gyfer y rhai dros 50, a ariennir drwy Cymunedau yn Gyntaf a'r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (AIGC), wedi cryfhau'r cysylltiad rhwng Adrannau. Mae’n darparu cefnogaeth ar gyfer gweithredu ym mhob ardal Cymunedau yn Gyntaf.

 

Cefnogi Pobl:

40.  Mae'r rhaglen Cefnogi Pobl yn gwneud cyfraniad pwysig i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan ddarparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i helpu pobl i fyw mor annibynnol ag y bo modd. Mae'n cael ei ddefnyddio i dargedu’n benodol rhai grwpiau â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl hŷn, pobl ifanc, rhieni sengl a lleiafrifoedd ethnig.

 

Cyllid Ewropeaidd

 

41.  Ar draws holl Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd 2014-20 (drwy  Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a'r Cynllun Datblygu Gwledig) caiff trechu tlodi a chydraddoldeb eu nodi ar wahân fel Themâu Trawsbynciol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob rhaglen a ariennir ystyried y themâu hyn.

 

 

Cyllidebau

 

Asesu Cyllidebau

 

42. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i asesu effaith ei phenderfyniadau gwariant ar bobl Cymru. Ar ddechrau'r adolygiad o wariant yn 2010, cyhoeddwyd Asesiad Effaith cynhwysfawr cynlluniau gwariant ochr yn ochr â Chyllideb Derfynol 2011-12. Llywodraeth Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i wneud hynny ac mae wedi parhau i arwain y ffordd yn hyn o beth, gan adeiladu ar hyn bob blwyddyn.

 

43. Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at yr adroddiad manwl drwy asesu effaith penderfyniadau cyllidebol arwyddocaol a wneir bob blwyddyn. Mae'r asesiad hwn yn cynnwys ystyried meysydd polisi allweddol megis Trechu Tlodi a Chydraddoldeb ac adborth gan randdeiliaid allweddol.

 

44. Mae'r ymrwymiad i welliant parhaus yn un o'r rhesymau allweddol pam y sefydlodd y Gweinidog Cyllid Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE) yn 2012, er mwyn gwella ansawdd y wybodaeth a ddarperir i'r Asesiad Effaith. Mae gan y Grŵp rôl allweddol yn cefnogi gwelliant parhaus yr Asesiad Effaith ac yn darparu fforwm ar gyfer rhannu a thrafod natur anghydraddoldebau yng Nghymru. Mae'n ffynhonnell werthfawr o gyngor ac yn gyfrwng ymgysylltu allweddol.

 

45. Eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hasesiad Integredig Strategol o’r Gyllideb, ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft ym mis Medi 2014 ac mae'r adroddiad yn benodol yn ystyried cydraddoldeb, trechu tlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol, hawliau plant a'r iaith Gymraeg.

 

46. Mae'r ymagwedd hon yn adlewyrchu pwysigrwydd ystyried pa mor gynaliadwy yw penderfyniadau yn ogystal ag ategu egwyddorion Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Mae'r ymagwedd hon hefyd yn cydnabod y berthynas rhwng gwahanol flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac effeithiau trawsbynciol penderfyniadau cyllidebol.

 

Cyllid ar gyfer grwpiau â nodweddion gwarchodedig i drechu tlodi

47. Drwy amrywiol raglenni, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â nodweddion gwarchodedig, gan geisio lleihau eu risg o fyw mewn tlodi a lleihau annhegwch. Mae'r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn dyfarnu £4.9 miliwn dros gyfnod tair blynedd y rhaglen i 16 o sefydliadau trydydd sector gan gyfrannu at gyflawni blaenoriaethau cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr amcanion cydraddoldeb a geir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS). Mae'r grant yn cefnogi pobl sydd â nodweddion gwarchodedig gwahanol.

 

48. Mae'r Grant Digartrefedd yn cefnogi sefydliadau megis Cyngor Ffoaduriaid Cymru i weithio gyda Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches a Shelter Cymru i weithio gyda Grwpiau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Er bod y Grant Datblygu Polisi Tai yn ariannu sefydliadau megis Tai Pawb, sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru gyda'r nod o sicrhau bod gan bob unigolyn yr hawl i gael mynediad at dai o ansawdd da mewn cymunedau cydlynol a diogel.

 

49.  Mae Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a phartneriaid y prosiect tan fis Mehefin 2015. Prif nod y prosiect yw deall yn well a mynd i'r afael â’r ffyrdd y mae anghydraddoldebau cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu hatgynhyrchu trwy ffactorau fel gwahanu galwedigaethol a gwaith rhan-amser a gwaith contract

 

50.  Mae Cymunedau 2.0 yn darparu cyngor a chymorth i helpu i feithrin sgiliau er mwyn i bobl agored i niwed gael eu cynnwys yn ddigidol.

 

51. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth o sefydliadau Trydydd Sector drwy gyllid craidd a chyllid yn seiliedig ar brosiectau. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy'n canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys Anabledd Cymru, Chwarae Teg, Age Cymru, Black Association of Women a Barnardo’s Cymru.

 

Casgliad

 

52. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod themâu trawsbynciol trechu tlodi ac anghydraddoldebau yn cael eu cydgysylltu o safbwynt eu cysylltiad â’i gilydd ac yn cael eu hymgorffori mewn penderfyniadau polisi a deddfwriaeth ar draws Llywodraeth Cymru.